Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Mai 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu:
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy’n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu’n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
(5 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y sector addysg uwch, yn dilyn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru am effaith ariannol Covid-19 ar brifysgolion yng Nghymru?
Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a'r adnoddau fydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r capasiti i olrhain cysylltiadau yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer codi'r cyfyngiadau presennol?
(45 munud)
NNDM7325 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM7326 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Mai 2020.
(90 munud)
NNDM7326 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cyhoeddi Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi: Dal i Drafod, sy’n disgrifio sut y gall Cymru ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn raddol
2. Yn cytuno y dylai iechyd y cyhoedd fod yn ystyriaeth flaenllaw mewn unrhyw benderfyniadau ynghylch pryd a sut y caiff y rheoliadau ynghylch aros gartref gael eu llacio
3. Yn diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws
4. Yn canmol gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr hanfodol ar draws Cymru yn ystod y pandemig.
Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig fel rhan o ddull cydlynol pedair cenedl o godi'r cyfyngiadau symud.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf â'r rhai y mae profedigaeth yn effeithio arnynt.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi, i gynnwys:
a) amserlenni dangosol ar gyfer codi'r mesurau cyfyngiadau symud;
b) manylion y cerrig milltir a'r targedau sydd i'w cyflawni cyn codi pob mesur;
c) sefydlu tasgluoedd mewn adrannau gweinidogol allweddol i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r cynllun; a
d) cynllun ariannol priodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun.
Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r alwad gan bedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru i'r Prif Weinidog sicrhau bod y dirwyon uchaf y gall yr heddlu eu dyroddi am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau iechyd cyhoeddus, yn cael eu cynyddu er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n gadarn cyhyd ag y maent ar waith.
Gwelliant 5 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu ei bod yn angenrheidiol sicrhau bod system gadarn o brofi ac olrhain cysylltiadau ar waith er mwyn codi'r cyfyngiadau'n sylweddol.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6, 7 ac 8 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 9 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol ac i archwilio pob llwybr arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaelodlin o gymorth ariannol ar gael i bobl Cymru drwy gydol y cyfnodau o gyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi.
NDM7322 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2020.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
NDM7323 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2020.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
(15 munud)
NDM7324 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2020.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 3 Mehefin 2020